A walk from Llanfair Clydogau bridge
1 hour ago
Cyngor Sir
|
NEWYDDION
NEWS |
CEREDIGION
| |
County Council
| |
SICRHAU GWASANAETHAU BWS CEREDIGION A SIR GÂR
|
CEREDIGION AND CARMARTHENSHIRE BUS SERVICES RESTORED
|
Datganiad ar y cyd gan Gyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Gâr.
Mae Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Gâr yn falch o gyhoeddi, yn sgil penderfyniad Arriva i ddileu’r gwasanaeth 20 rhwng Aberystwyth a Chaerdydd, y gwasanaethau 40 a 40C rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin a’r gwasanaeth 50 rhwng Aberystwyth, Ceinewydd a Synod Inn, ein bod wedi dyfarnu contractau i Lewis Coaches o Lanrhystud, First Cymru a’r Brodyr Richards i ddarparu gwasanaethau yn eu lle hyd at ddiwedd Mehefin 2014. Mae’r ddau Gyngor yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru a’r Gweinidog Trafnidiaeth am gyfrannu’r arian sydd wedi ein galluogi i roi’r trefniadau hyn ar waith. Byddant yn awr yn edrych ymlaen at gydweithio â Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu gwasanaeth Traws Cymru a fydd yn cadw’r bysus ar y ffyrdd ac efallai’n cyflwyno rhagor ohonynt ar ôl mis Mehefin nesaf.
Meddai’r Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Drafnidiaeth:
“Mae wedi bod yn gyfnod anodd i ddefnyddwyr y gwasanaethau bws yng Ngheredigion a Sir Gâr, ar ôl i Arriva gyhoeddi eu bod yn tynnu allan o’r ddwy sir. Ar ôl trafodaethau dwys, rwy’n eithriadol o falch o fedru cyhoeddi y gallwn ddal i ddarparu’r gwasanaethau 40, 40C a 50. Bydd y gwasanaeth 40/40C rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin yn debyg iawn i’r hyn sydd eisoes ar gael, ond mae’n rhoi pleser arbennig i ni fedru cyhoeddi y bydd y gwasanaeth 50 rhwng Aberystwyth ac Aberteifi yn un llawer gwell, ac ni fydd angen mwyach i bobl gyfnewid bysus yn Synod Inn. Rydym hefyd wedi sicrhau y bydd modd defnyddio tocynnau’r gwahanol gwmnïau ar bob bws 40, 40C a 50.
“Fe wnaethom ddewis gweithio mewn cydweithrediad â’r gwasanaeth 701 i Gaerdydd, yn hytrach na chystadlu ag ef, a dylai pob gwasanaeth elwa ar hynny.
“Mae pobl oedd yn arfer mynd ar y bws 20 i Gaerdydd yn awr yn medru defnyddio’r 701, neu fynd ar y 40 neu’r 40C i ddal y trên yng Nghaerfyrddin. Bydd y gwasanaeth 701 hefyd yn cludo teithwyr ar ddydd Sul.
“Rwy’n arbennig o ddiolchgar i’r holl gwmnïau lleol a gyflwynodd dendrau ar gyfer y gwasanaethau hyn, i swyddogion y ddau Gyngor sydd wedi bod wrthi mor ddiwyd yn y cefndir, ac i Lywodraeth Cymru am y cymorth ariannol.”
Diweddariad: amserlenni bws newydd ar gael yma |
Joint statement by Ceredigion County Council and Carmarthenshire County Council.
Ceredigion County Council and Carmarthenshire County Council are very pleased to announce that, following Arriva's decision to terminate the 20 service between Aberystwyth and Cardiff, the 40 and 40C services between Aberystwyth and Carmarthen and the 50 service between Aberystwyth and Synod Inn, via New Quay, that contracts have been awarded to Lewis Coaches (Llanrhystud), First Cymru and Richards Brothers to provide replacement services until the end of June 2014. Both authorities are grateful to the Welsh Government and the Minister for Transport for their financial contribution to enable these arrangements to be put in place. We hope to be working with the Welsh Government to develop a Traws Cymru service which will further develop and solidify these routes beyond June.
Councillor Alun Williams, Ceredigion County Council Cabinet Member for Transport, said:
“This has been a difficult time for the bus service users in Ceredigion and Carmarthenshire following the announcement of the Arriva pull-out. After a period of intense negotiation, I am delighted that we can announce replacement services on the 40, 40C and 50 routes. Whilst the 40/40C service between Aberystwyth and Carmarthen will be very similar to the current service, I am particularly pleased to announce that the 50 route between Aberystwyth and Cardigan will now be a greatly enhanced through-service that will avoid the need to change in Synod Inn. We have also negotiated through-ticketing between the different companies operating the 40, 40C and 50 services.
“We have taken the opportunity to work in co-operation with the existing 701 service to Cardiff rather than in competition and all services should benefit as a result.
“The 20 service is currently being covered by the 701 service or by using the 40 and 40C services and connecting to the rail service at Carmarthen. Sunday services will be provided by the 701.
“I am very grateful to all the local companies who tendered for the routes, to the Council officers who have been working very hard behind the scenes and to the Welsh Government for its financial assistance.”
Update: New bus timetables available here |