14/09/2007

Lansio Cynlluniau Newydd yr Ysbyty / New Hospital Plans Launched

SCROLL DOWN FOR ENGLISH
Mynychodd tua 45 o drigolion lleol gyfarfod gyda swyddogion o Ysbyty Bronglais yn ddiweddar er mwyn lansio cynlluniau newydd uchelgeisiol ar gyfer ehangu’r ysbyty. Mae’r cynlluniau yma’n cynnwys 50 man ychwanegol i barcio ceir a chyfeirio ambiwlansys drwy’r fynedfa ar Riw Penglais yn hytrach na’r drefn bresennol o deithio trwy Ffordd Caradog.

Er nad ydynt wedi eu terfynu eto, mae yna gynlluniau ar gyfer codi estyniad â phedwar llawr yn yr ardal rhwng yr adran Damwain ac Argyfwng bresennol a Thŷ Helyg ar Ffordd Caradog. Bydd yr adeilad newydd yn cynnwys adran newydd Damwain ac Argyfwng, Uned Penderfyniadau Clinigol â 14 gwely, a theatrau newydd. Byddai hyn yn golygu dymchwel y Labordy Patholegol presennol ond ni fyddai Tŷ Geraint – yr Uned Gofal Lliniarol Cancr – yn cael ei effeithio. Byddai haen arall yn cael ei adeiladu ar y prif faes parcio drwy ddefnyddio llethr naturiol y bryn. Maent nawr wedi rhoi’r gorau i’r cynlluniau blaenorol i adeiladu maes parcio aml-lawr ar ben uchaf yr ysbyty gan mai dim ond cynlluniau sy’n gysylltiedig â gofalu am gleifion sydd yn cael eu hariannu erbyn hyn.

Y cam cyntaf fydd i gyflwyno amlinelliad o’r cais busnes i’r Cynulliad Cenedlaethol, ac mae’r ysbyty’n gweithio ar hyn. Yn dilyn yr ymgyrch iechyd gan yr Aelod Cynulliad dros Geredigion, Elin Jones AC, mae’r Cynulliad wedi cytuno i fuddsoddi ymhellach yn yr ysbyty ond nid oes prosiect penodol wedi cael ei gytuno hyd yn hyn. Y gobaith yw y bydd yr adeilad newydd ar agor erbyn diwedd 2011.

Roedd yr ymateb y cyfarfod i’r cynlluniau yma yn bositif ar y cyfan. Fodd bynnag, nodwyd bod aelodau o staff yn parhau i barcio eu ceir y tu allan i dai trigolion lleol a bod hyn yn creu problemau ac, er bod y bwriad i greu mwy o le i barcio, anogwyd yr ysbyty i gynyddu’r nifer o fannau parcio yn fwy fyth.

Trigolion lleol oedd y cyntaf i weld y cynlluniau hyn. Fe addawodd cynrychiolwyr o’r ysbyty y byddent yn parhau i ymgynghori gyda’u cymdogion dros y misoedd nesaf ac fe’i llongyfarchwyd ar hyn.

Os hoffech drafod y prosiect yma, gallwch gysylltu â Brian Thomas yn yr ysbyty ar 01970 – 623131

Datblygiadau eraill yn yr ysbyty
· Mae’r prif weithredwr wedi danfon llythyron at staff sy’n ysmygu – ac sydd nawr yn methu gwneud hynny yng nghyffiniau’r ysbyty – i barchu eiddo trigolion lleol;
· Mae’r ysbyty yn gwario £3 miliwn ar gyflenwad trydan yn benodol ar gyfer eu hanghenion nhw. Bydd y cyflenwad hwn yn gweithio erbyn diwedd y flwyddyn ac fe fydd yn dod â’r arfer o broblemau trydanol yn yr ysbyty yn arwain at doriad yng nghyflenwad trydan tai mewn ardaloedd cyfagos i ben;
· Bydd yr Uned Monitro Cardiaidd newydd yn agor yn ystod mis Rhagfyr.

NEW HOSPITAL PLANS LAUNCHED
Around 45 local residents recently attended a meeting with Bronglais hospital officials where ambitious new expansion plans for the hospital were launched. These include 50 extra car parking places and the channeling of ambulances through the Penglais Hill entrance rather than the present Caradog Road.

The plans, still in their early stages, are for a four-storey extension to be built between the present Accident & Emergency Department (A & E) and Ty Helyg in Caradog Road. The new building would house a new A & E, a 14-bed Clinical Decisions Unit and new Operating Theatres. This would involve demolishing the current Path Lab but the new Ty Geraint palliative cancer centre would remain. An extra layer would be placed on the main car park using the natural slope of the hill. The previous plan to place a multi-storey car park at the top end of the hospital has now been abandoned as only plans directly linked to patient care, like these, can now receive funding.

The first step, currently being worked on, is for an outline business case to be presented to the National Assembly. Following the health campaign by Ceredigion’s Assembly Member Elin Jones, Assembly have agreed to further invest in the hospital although the specific project still has to be agreed. It is hoped that the new building could be functioning by the end of 2011.

The meeting was broadly positive about the proposals. But the point was made continuously that staff parking outside the houses of local residents was a serious problem and, whilst the extra parking provision was welcomed, the hospital was urged to increase this.

Local residents attending were the first to see these plans. Hospital representatives promised to continue the dialogue with their neighbours in the coming months and they were congratulated for their consultation initiative.
Anyone wishing to discuss the plans can contact Brian Thomas, Communications Director, on 01970-623131

Other hospital developments
The Hospital's Chief Executive has sent out letters asking staff who smoke, now exiled from around the hospital, to respect the properties of local residents.
The hospital are spending £3 million on a dedicated electricity supply. This to be switched on by the end of the year and will end the instances of hospital supply problems causing powercuts in the surrounding areas.
The new Cardiac Monitoring Unit is due to open in December