04/04/2014

Pantycelyn to continue

Here's the very welcome letter received today by students campaigning for the retention of Pantycelyn as a Welsh-speaking student hall at Aberystwyth University (scroll down for English version):

Annwyl Fyfyriwr,

Heddiw bu Rebecca Davies, John Grattan a minnau yn cyfarfod â chynrychiolwyr o Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth UMCA i drafod dyfodol Pantycelyn.

Yn ystod y cyfarfod, cyflwynwyd cynnig gennym a fyddai’n golygu ein bod yn cydweithio gydag UMCA i ddatblygu cynllun busnes ar ddefnydd Neuadd Pantycelyn i’r dyfodol fel Canolfan Gymraeg a Diwylliant. Rwy’n falch iawn gallu dweud fod y cynnig hwn ei dderbyn gan UMCA.

Mae’r cynnig yn cynnwys datblygu opsiynau manwl ar gyfer parhad Pantycelyn fel llety arlwyo ar gyfer myfyrwyr sy’n siaradwyr Cymraeg ac yn ddysgwyr y Gymraeg.

Rydym yn gobeithio y bydd y Ganolfan Gymraeg a Diwylliant yn gweithredu fel canolbwynt i’n cymuned Gymraeg gyfan, gan gynnwys myfyrwyr a staff ynghyd â’r gymuned ehangach a phawb sydd â diddordeb yn y diwylliant Cymraeg a Chymreig yn gyffredinol.

Rydym yn ymrwymedig i ddenu myfyrwyr Cymraeg i Aberystwyth ac i hybu’r modd y maent yn cael mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sy’n ehangu ynghyd ag ystod mor eang â phosib o gyfleoedd cymdeithasol a diwylliannol Cymraeg.

Nid yw’r cynnig hwn a gytunwyd heddiw yn effeithio ar ein cynlluniau ar gyfer llety cyfrwng Cymraeg ar Fferm Penglais.

O fis Medi 2014, bydd myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg a’r rhai sy’n ei dysgu, yn medru dewis rhwng llety arlwyo ym Mhantycelyn, a llety hunan arlwyo ar Fferm Penglais.

Pob hwyl,

Dr Rhodri Llwyd Morgan
Dirprwy Is-Ganghellor



Dear Student,

Today, Rebecca Davies, John Grattan and I met with representatives from UMCA, the Aberystwyth Welsh-speaking Students’ Union and representatives of the University’s branch of the Coleg Cymraeg, to discuss the future of Pantycelyn.

During the meeting we tabled a proposal that would see us working with UMCA on the development of a business plan for the future use of Pantycelyn as a Welsh Language and Cultural Centre. I am very pleased to report that this proposal has been accepted by UMCA.

The proposal includes providing detailed options for the continuation of Pantycelyn as catered accommodation for students that are Welsh speakers and Welsh learners.

We hope that a Welsh Language and Cultural Centre at Pantycelyn will act as a hub for our entire Welsh-speaking community, including students, staff as well as the wider community and all those interested in Welsh culture generally.

We are committed as a university to attracting Welsh-speaking students and to promote access to the expanding Welsh medium provision, together with widest possible range of Welsh-medium social and cultural opportunities.

The agreed proposal does not affect the current plans for the new Welsh medium accommodation at Fferm Penglais.

From September 2014, Welsh speaking students and those learning Welsh will be able to choose between catered accommodation in Pantycelyn, and self-catering accommodation on Fferm Penglais.

Regards,

Dr Rhodri Llwyd Morgan
Pro Vice-Chancellor


The campaign has seen a number of demonstrations, including this one in October, in which university offices were occupied.