01/07/2007

Cefnogaeth y 'Masterplan' / Masterplan Support

CEFNOGAETH Y ‘MASTERPLAN’
Mae ‘Masterplan’ Aberystwyth a lansiwyd yn ddiweddar yn cynnwys cefnogaeth ar gyfer ardaloedd parcio ar gyfer preswylwyr yn dilyn argymhelliad cynghorwyr Plaid Cymru i’r ymgynghorwyr. Wrth ymateb i gwestiynau pan lansiwyd y ‘Masterplan’, dywedodd yr ymgynghorwyr y byddent hefyd yn trafod gyda’r Cyngor Sir ynglŷn â’r angen i drosglwyddo rheolaeth dros barcio o’r Heddlu i’r Cyngor. Mae hyn yn gam hanfodol cyn y gellir cyflwyno ardaloedd parcio ar gyfer preswylwyr.
MASTERPLAN SUPPORT
The recently launched Aberystwyth Masterplan contains support for Residents’ Parking, following a submission to the consultants by Plaid Cymru councillors. When questioned at the Plan’s launch, the consultants said they would also be talking to the County Council about the need for parking control to be transferred from the Police to the Council, known as ‘decriminalisation’. This is a measure regarded as essential before a Residents’ Parking scheme can happen.