29/11/2007

Prif Gynllun Aberystwyth - Argymhellion Diweddaraf

Oes gyda chi ddiddordeb yn y modd y bydd y dref yn datblygu?

Dewch i un o chwech sesiwn agored i weld yr argymhellion, siarad â chynrychiolwyr a darparu eich syniadau a’ch sylwadau fel rhan o’r ymgynghoriaeth sy’n mynd ymlaen.

Yn swyddfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru, Y Lanfa,Trefechan, Aberystwyth
Dydd Iau 6ed o Ragfyr 2007 10yb – 1yp 4yh – 7yh
Dydd Gwener 7fed o Ragfyr 2007 10yb – 1yp
Dydd Sadwrn 8fed o Ragfyr 2007 10yb – 1yp
Dydd Llun 10fed o Ragfyr 2007 10yb – 1yp 4yh – 7yh
Cynhelir mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion.