26/02/2008

Achub Coed y Fynwent

SCROLL DOWN FOR ENGLISH

Mae cynllun i dorri coed ar hyd y llwybr ger mynedfa Mynwent Aberystwyth ar Ffordd Llanbadarn wedi cael ei rwystro. Roeddwn yn digwydd cerdded heibio wrth i’r goeden gyntaf cael ei thorri ac fe lwyddais i atal unrhyw waith pellach ar y coed sy’n creu effaith twnnel wrth gerdded ar hyd y llwybr.

Nid oedd y mwyafrif o’r trigolion lleol a ymgynghorwyd am weld y coed yn cael eu diddymu ac, yn dilyn trafodaethau pellach, fe gytunwyd i atal y gwaith am y tro ac i docio’r coed ychydig yn y dyfodol.

Yn y misoedd nesaf bydd y Cyngor yn adnewyddu’r gatiau, waliau a llwybrau o amgylch y fynwent er mwyn gwella ei golwg a chynnig mynediad haws i’r nifer o bobl sy’n cerdded trwyddi.

Mae’r Cyngor yn awr wedi cytuno i gydweithio â Grŵp Aberystwyth Gwyrddach (GAG) i gynhyrchu cynllun rheoli hirdymor ar gyfer y fynwent. Gall trigolion gysylltu â GAG naill ai drwy e-bostio
post@lauriewright.plus.com